collage

Cwestiynau Cyffredin

Prosiect sydd wedi cael ei gynllunio i newid y ffordd mae asiantaethau’n gweithio gyda theuluoedd ydy Amddiffyn Plant yn Effeithiol, pan fydd pryderon yn codi am blentyn yn cael ei gam-drin.

Y nod ydy cynnal sgyrsiau gwahanol gyda theuluoedd am gadw plant yn ddiogel.  Yn aml iawn, bydd y sgyrsiau hyn yn cynnwys dipyn o wrthdaro, sy’n gwneud i’r teuluoedd wrthwynebu’r union newid sydd ei angen i gadw’r plentyn neu’r plant yn ddiogel.  Bydd y prosiect yn helpu i ddatblygu sgiliau staff er mwyn iddynt allu cael sgyrsiau gwahanol gyda theuluoedd.  Y tu hwnt i allu’r gweithiwr, y nod ydy gwella ei ymwybyddiaeth am y sgyrsiau hyn a’r ffordd mae’n meddwl amdanynt drwy fentora.

Y nod ydy:

  • Esbonio’r newidiadau sy’n allweddol er mwyn lleihau niwed.
  • Ar ôl rhoi ffocws i’r newidiadau hyn, cynnal y ffocws drwy gydol y broses amddiffyn plant.
  • Sefydlu gyda theuluoedd, yn eu geiriau eu hunain, y newidiadau maent yn dymuno’u cyflawni.
  • Mesur camau gyda’r teulu i weld y cynnydd maent yn ei wneud wrth gyflawni’r canlyniadau hyn.

Yn olaf, dal ati i gynnal asesiadau cyson o safon uchel ar y tebygolrwydd o niwed arwyddocaol.  Bydd hyn yn sicrhau bod gan wasanaethau sail gyfreithiol dros ymyrryd ym mywyd preifat teuluoedd.

Ar ôl dadansoddi gwaith achos, fe wnaethom sylweddoli nad oedd hi bob amser yn glir beth oedd angen newid er mwyn sicrhau'r canlyniadau ar gyfer diogelu.  Yn aml iawn, byddai’r newid hwn yn cael ei golli yng nghanol miri’r gwaith achos a’r tasgau, y gwasanaethau a’r camau gweithredu di-ri.  Doedd hi ddim bob amser yn glir mewn Cynadleddau beth oedd y meysydd newid pwysig oedd angen sylw.  Doedd hi ddim wastad yn hawdd cael consensws rhwng asiantaethau am eu rôl yng Nghynllun Amddiffyn y Plentyn, nac am y tasgau oedd angen sylw.  Roedd teuluoedd yn dweud nad oeddent yn siŵr beth oedd pawb yn ei ddisgwyl ganddynt, ac nad oeddent yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn ddigonol yng Nghynllun Amddiffyn y Plentyn yn sgil hynny.

Cyflwynwyd rhai addasiadau i ambell Gynhadledd Achos. Trafodwyd eglurder am newidiadau a’r canlyniadau roeddem yn gobeithio’u gweld rhwng asiantaethau.  Dros amser, mae prosesau a ffyrdd o weithio’n aeddfedu, a llwyddwyd i ddatblygu rhaglen hyfforddi ‘Amddiffyn Plant yn Effeithiol’ ar gyfer staff.  Un o’r prif fanteision ydy’r Grwpiau Craidd sy’n canolbwyntio ar feysydd newid penodol iawn.

Dylai staff o bob asiantaeth sylwi bod Cynadleddau Achos yn rhoi mwy a mwy o ffocws ar adnabod y newidiadau sy’n allweddol er mwyn cadw plentyn yn ddiogel rhag niwed.

Bydd gofyn i weithwyr cymdeithasol feddwl am newidiadau yn eu hadroddiadau i’r Cynadleddau.  Dylai asiantaethau sylwi ar y meysydd hyn mewn adroddiadau.  Mewn achosion pan fydd angen Cofrestru, dylai cadeirydd y Gynhadledd wneud yn siŵr bod pob asiantaeth yn canolbwyntio ar y newidiadau allweddol.  Ar gyfer pob newid, bydd y dystiolaeth sy'n dangos pam nad ydy gofal yn cael ei ystyried ‘yn ddigon da’ yn cael ei thrafod.  Eto, ar gyfer pob newid, bydd y Gynhadledd yn cydweithio i nodi’r ymddygiad y byddai am ei weld er mwyn cadw’r plentyn yn ddiogel.  Os bydd y newidiadau’n parhau, dyma fydd y canlyniadau diogelu (newid) wrth galon Cynllun Amddiffyn y Plentyn.

Dylai crynodebau’r Cynadleddau Achos egluro’n benodol iawn pa feysydd y mae angen i Grwpiau Craidd ganolbwyntio arnynt.  Bydd hyn yn dweud wrth y Grŵp Craidd beth ydy’r meysydd newid, yr ymddygiadau a’r dystiolaeth sy'n dangos cychwyn y daith (o lefel gofal) tuag at gyfres newydd o ymddygiadau lle mae’r plentyn yn fwy diogel a lefel y gofal ‘yn ddigon da’.  Bydd hyn yn rhoi sylfaen i’r Grŵp Craidd ar gyfer datblygu Cynllun Amddiffyn y Plentyn.

Bydd Grwpiau Craidd yn canolbwyntio ar y meysydd newid penodol a bydd cynllun yn cael ei ddatblygu i sicrhau bod canlyniadau’n cael eu cyflawni.  Bydd y newidiadau a’r datganiadau ‘ddim yn ddigon da’ a ‘digon da’ yn cael eu strwythuro drwy ddefnyddio teclyn graddio, a bydd y camau tuag at ganlyniad mwy diogel yn cael eu datblygu gyda’r teuluoedd.

Rydym wedi cael adnoddau gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r prosiect am ddwy flynedd.

Un o’r prif bethau rydym wedi buddsoddi ynddo ydy mentor ymarfer.  Bydd y mentor yn cefnogi aelodau unigol o staff a thimau wrth iddynt fynd ati i roi’r fframwaith ar waith yn ymarferol.  Bydd y rôl yn rhoi pwyslais ar ddysgu gweithredol wrth i staff ddefnyddio’r teclynnau a’r prosesau newydd sydd wedi cael eu datblygu.  Rydym yn gobeithio dysgu o’r profiadau hyn er mwyn gwella’r model eto – a chael gwell dealltwriaeth o ymarfer.

Mae pedair elfen Amddiffyn Plant yn Effeithiol yn cael eu cefnogi gan dair rhaglen hyfforddiant benodol.  Maent yn cynnwys rhaglen hyfforddiant genedlaethol Sgyrsiau Cydweithredol, yn ogystal â dau ddigwyddiad hyfforddi a ddatblygwyd yn lleol.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Sgyrsiau Cydweithredol
  • Model Risg
  • Amddiffyn Plant yn Effeithiol

Bydd sawl ffurflen newydd yn cael ei chreu yn sgil y prosiect, a bydd ffurflenni eraill yn cael eu haddasu.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Adroddiad Gwaith Cymdeithasol i Gynhadledd Achos Gychwynnol:  mae’r ffurflen hon wedi cael ei haddasu ac mae pawb wedi cytuno arni – mae hi’n cael ei defnyddio yn yr ardal beilot.
  • Adroddiad Gwaith Cymdeithasol i Gynhadledd Achos Adolygol:  mae’r ffurflen hon wedi cael ei haddasu ac mae pawb wedi cytuno arni – mae hi’n cael ei defnyddio yn yr ardal beilot.  

Mae gwaith wedi cael ei gwblhau ar fformat cofnodion y Grŵp Craidd a’r Cynllun Amddiffyn Plant.  Bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod y ffocws ar newid a’r graddfeydd mesur yn cael eu cynnwys yn y dogfennau craidd.