Datblygu Modelau Ymarfer Adlewyrchol

Mae Korthagen (2001) yn disgrifio ymarfer adlewyrchol fel y broses feddyliol o geisio strwythuro neu ailstrwythuro profiad, problem neu wybodaeth neu fewnwelediadau sy’n bodoli eisoes.

Wrth oedi i feddwl am y gair adlewyrchu, mae rhywun yn meddwl am ddrych. Mae adlewyrchiad mewn drych yn atgynhyrchiad union o'r hyn sydd o'i flaen. Mewn cyferbyniad, mae Biggs (1999) yn disgrifio adlewyrchu mewn ymarfer proffesiynol nid fel atgynhyrchiad union ond yn hytrach dangos beth allai fod, gwelliant ar y gwreiddiol.

Gellir hybu ymarfer adlewyrchol gyda chymorth eraill mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol. Er enghraifft, mewn goruchwyliaeth, mewn sesiynau unigol ac mewn grŵp. Mae mentora ymarfer yn hybu datblygiad ymarfer adlewyrchol.

Disgrifir anaf moesol fel y trallod neu’r trawma seicolegol sy’n deillio o weithredoedd sy’n torri côd moesol neu foesegol rhywun.  Mae anaf moesol wedi’i drafod yng nghyd-destun COVID 19 a rhai o’r gweithrediadau bu’n rhaid i ymarferwyr eu gwneud. Gellir dadlau oherwydd natur gwaith cymdeithasol; fod anaf moesol yn digwydd ymhell cyn y pandemig. Nododd Greenberg et al (2020) 6 pheth a all liniaru effaith andwyol anafu moesol ar unigolion a sefydliadau. Mae tri o'r rhain yn ymwneud yn uniongyrchol ag ymarfer adlewyrchol.

Rhain ydi:

  • Diwylliant adlewyrchol o fewn y sefydliad
  • Sgyrsiau adlewyrchol sy’n rhoi cefnogaeth emosiynol gefnogol, yn enwedig mewn goruchwyliaeth
  • Y cyfle i adlewyrchu’r drylwyr, gan roi pwyslais penodol ar deimladau

Fel rhan o Amddiffyn Plant Effeithiol, datblygwyd Canllaw Byr i Ymarfer Adlewyrchol gan ymarferwyr gyda chymorth Siobhan Maclean a Wendy Roberts. Gallwch lawr lwytho fersiwn electronig o'r canllaw.

Canllaw Byr i Ymarfer Adlewyrchol (pdf)