collage

Newyddion

Sesiynau Cysylltiadau Adlewyrchol

Y llynedd des i ar draws rhywfaint o hyfforddiant oedd yn cael ei gynnal gan Siobhan Maclean a BASW o’r enw ‘Reflective Connections’. Oherwydd ein diddordeb mewn ymarfer adlewyrchol, roeddwn i eisiau cofrestru ar unwaith i ddysgu am y model newydd hwn a gweld a oedd yn rhywbeth y byddwn efallai'n gallu ei ddefnyddio yng Ngwynedd.

Datblygu model adlewyrchol ar gyfer Gwynedd

Yn ysbryd ymarfer cydweithredol ac ymarfer adlewyrchol, rydym wedi dod ag aelodau o bob tîm ynghyd ochr yn ochr â'r adran hyfforddi, i'n cefnogi yn y prosiect i greu model adlewyrchol ein hunain ar gyfer Gwynedd. Trwy ein trafodaethau â Siobhan Maclean roeddem wedi cytuno y byddai creu model ein hunain yn helpu gyda'i berchnogaeth ohono a byddai hyn yn cryfhau arfer adlewyrchol i'n gweithwyr rheng flaen.

Gweithio yn ystod Pandemig Covid 19

Rwy’n siŵr y gallwn ni i gyd ddweud yn ddiogel na welsom y pandemig yn cael effaith mor ddwys ar ein gwaith a’n bywydau cartref. Gyda'r prosiect, roedd yn teimlo i ddechrau ein bod yn colli momentwm, ac nad oedd holl waith caled y flwyddyn ddiwethaf yn mynd i gael ei gynnal. Ond rydym wedi addasu a dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio, gan adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd mewn gwaith cymdeithasol ar draws pob maes.

Pwysigrwydd ymarfer adlewyrchol

Mae ymarfer adlewyrchol wedi bod yn gonglfaen i'r prosiect Amddiffyn Plant yn Effeithiol o'r cychwyn cyntaf. Mae'r Mentor Ymarfer wedi defnyddio grwpiau mentora unigol ac grwpiau ymarfer adlewyrchol i ddatblygu gallu gweithwyr i roi rhai o egwyddorion Amddiffyn Plant yn Effeithiol ar waith. Mae hyn wedi gweithio'n dda iawn ar gyfer y prosiect a datblygu rôl y Mentor Ymarfer.

Yr ail fwletin

Dyma gyhoeddi ail fwletin y prosiect sy’n son yn gyffredinol am y cynnydd a wnaed, rhai o’r pethau a ddysgwyd hyd yn hyn, a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.