Camau Adlewyrchu

Mae ymarfer adlewyrchol yn un o gonglfeini Amddiffyn Plant yn Effeithiol.

Gall fod yn rhan o ymarfer dydd i ddydd yr ymarferydd; yn adlewyrchiad ar eich pen eich hun neu gyda gydweithwyr.

Mae ymarfer adlewyrchol hefyd yn cael ei hwyluso trwy fentora ymarfer, grwpiau ymarfer adlewyrchol ac mewn goruchwyliaeth.

Fideo wedi ei hanimeiddio ydi ‘Camau Adlewyrchol’ sydd wedi ei ddatblygu ar y cyd efo Siobhan Maclean a Wendy Roberts.  Mae’n ddatblygiad gwych gyda’r animeiddiwr Ray Marett; sy’n cynnig ffordd wahanol o’n hatgoffa am y tri math gwahanol o adlewyrchu.

Adlewyrchu ar ymarfer, adlewyrchu yn y foment ac wrth i chi baratoi ar gyfer gweithredu.

Mae dwy fersiwn o'r fideo.

  • Mae'r fersiwn hir tua 5 munud o hyd.
  • Mae fersiwn fyrrach yn crynhoi'r pwyntiau allweddol mewn llai nag 1 munud.

Yn y fideos mae sawl sleid gyda chwestiynau i’ch cynorthwyo wrth ystyried pob un o'r camau. Gellir lawrlwytho'r rhain fel set gyflawn; neu eu lawrlwytho ar wahân fesul cam penodol. Er enghraifft, mae'r sleidiau i fyfyrio AR weithredu, yn cynnwys cwestiynau sy'n ymwneud ag Eraill a Nesaf.  Wedi ichi wylio’r fideo, efallai y bydd y rhain yn ddefnyddiol i chi wrth ichi fynd ati i adlewyrchu.

Mae yna hefyd ganllawiau ar sut i ddefnyddio'r fideo.

Gellir ei ddefnyddio fel fideo y byddwch yn ei wylio un waith; ond mae wedi ei gynllunio i fod yn fwy na hynny.  Fideo gweledol y gallwch ei ddefnyddio pryd bynnag y bydd angen i oedi ac adlewyrchu.  Efallai y byddwch yn sylwi ar rhywbeth gwahanol bob tro y byddwch yn gwylio'r fideo, neu efallai y bydd cwestiwn penodol yn apelio atoch chi o’r newydd.

Sleidiau

  1. Sut i ddefnyddio'r fideo Camau Adlewyrchu (PDF)
  2. AR GYFER (PDF)
  3. WRTH (PDF)
  4. AR (PDF)
  5. Camau Adlewyrchu - pob sleid (PDF)