collage

Mesur – mesur cynnydd tuag at ganlyniadau

  • Sut mae staff yn mesur cynnydd a datblygiad eu hymyriadau.
  • Mesur pob cam tuag at sicrhau’r newid fydd yn cadw plant yn ddiogel.

Mae’r prosiect Amddiffyn Plant yn Effeithiol yn rhoi pwyslais ar newid. Mae’n diffinio’r prif feysydd newid a pha dystiolaeth fydd yn dangos bod ‘y gofal yn ddigon da erbyn hyn’.

Mae’r prosiect wedi datblygu ffordd o fesur newid.  Ar gyfer pob maes newid, mae’n graddio’r cynnydd sy’n cael ei wneud wrth geisio sicrhau bod ‘gofal yn ddigon da’.  Mae’r fethodoleg ‘camau tuag at newid’ yn cyflwyno fframwaith ar gyfer sgyrsiau cydweithredol. Caiff plant a theuluoedd eu hannog i ddiffinio’u newid eu hunain a’r geiriau maent yn dymuno'u defnyddio.  Defnyddir graddfa o 1 i 10 ar gyfer newidiadau.

Mae’r ‘camau tuag at newid’ a chysyniadau ‘mesur’ yn cynnig ffordd o fesur canlyniadau, fel yr amlinellir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.   

Bydd gweithdai hyfforddi a chymorth mentora yn helpu staff i adnabod camau tuag at newid ac i ddefnyddio’r fformatau cofnodi newydd.  Bydd y gwasanaeth mentora’n cael ei gyflwyno yn yr Awdurdod Lleol gan reolwyr a mentoriaid ymarfer, a drwy grwpiau cefnogol wedi’u hwyluso.

Cyflwynir yr hyfforddiant drwy raglen sydd wedi cael ei datblygu'n lleol, ac mae hi’n cynnwys:

  • Gweithdy Amddiffyn Plant yn Effeithiol
  • Canllawiau ymarfer a deunyddiau ategol

Bydd goruchwyliaeth, cefnogaeth gan gydweithwyr a rôl y Cydlynydd Amddiffyn Plant mewn Cynadleddau Achos yn ategu’r hyfforddiant hwn.  Mae’r prosiect Amddiffyn Plant yn Effeithiol yn cynnig cymorth mentora ar gyfer unigolion a grwpiau.