collage

Newid – ffocws clir ar y newid sydd ei angen er mwyn atal niwed

  • Staff yn canolbwyntio ar feysydd newid penodol i gadw plant yn ddiogel.
  • Gwell cyswllt gydag asiantaethau eraill mewn Grwpiau Craidd a Chynadleddau.

Holl bwrpas amddiffyn plant ydy adnabod niwed posibl i blant a deall beth sy’n achosi hyn.  Bydd gwasanaethau amddiffyn plant yn ymyrryd er mwyn addasu neu newid y pethau sy’n peri risg i blant.  Weithiau, mae hyn yn ymwneud ag ymddygiad rhiant neu rieni; y person ifanc ei hun, neu ffactorau allanol.  Oherwydd hyn, gellir dweud bod newid yn hollbwysig ac wrth galon y gwaith o amddiffyn plant.

“Sut mae gwybod a ydy ymarfer amddiffyn plant yn effeithiol?” Mae mwy iddi na chydymffurfio â phrosesau neu gadw at amserlenni. Wrth i ni ddadansoddi’r cwestiwn hwn, daethom i’r casgliad mai dim ond pan mae’n amlwg bod newid yn digwydd yn y meysydd sy'n peri pryder – sy’n gysylltiedig â’r tebygolrwydd o niwed arwyddocaol – y mae modd amddiffyn plant yn effeithiol.  Mae ymarfer amddiffyn plant yn cael ei ddiffinio mewn gweithdrefnau manwl, prosesau clir a fformatau cofnodi, ond dydy’r fframwaith hwn ddim yn rhoi pwyslais ar newid.  

Y sbardun ar gyfer y prosiect Amddiffyn Plant yn Effeithiol oedd sylweddoli bod angen i newid fod yn rhan amlycach o brosesau amddiffyn plant.  Roedd angen gwneud yn siŵr bod y pethau ddylai newid yn cael eu nodi’n gliriach mewn asesiadau, ac roedd angen sicrhau bod y meysydd oedd yn galw am newid yn ganolog i ymyriadau amddiffyn plant.  I ddechrau, rhaid egluro’r prif feysydd newid sy’n gysylltiedig â’r tebygolrwydd o niwed arwyddocaol.  Yna, gellir egluro pa dystiolaeth fyddai’n dangos bod gofal ‘yn ddigon da erbyn hyn’.      

Mae’r prosiect Amddiffyn Plant yn Effeithiol yn rhoi strwythur ar gyfer adnabod meysydd newid mewn asesiadau ac mewn Cynadleddau Achos Cychwynnol Amddiffyn Plant.  Bydd y ffocws ar newid yn cael ei fonitro drwy Grwpiau Craidd ac yn y Gynhadledd Adolygu Amddiffyn Plant.  Mae templedi cofnodi wedi cael eu haddasu a theclynnau penodol wedi cael eu creu i helpu i roi pwyslais ar newid.  Mae Amddiffyn Plant yn Effeithiol yn ein hannog i ganolbwyntio ar y prif newidiadau.  Mae tri maes newid yn ddigon ar gyfer Cynllun Amddiffyn Plant fel arfer.  Bydd mwy na hyn yn ei gwneud yn anodd iawn cadw ffocws digonol a sicrhau cynnydd.  Ar gyfer pob maes newid, bydd tystiolaeth sy’n dangos bod gofal ‘ddim yn ddigon da’ yn cael ei chofnodi.  Yna, ar gyfer pob maes newid, bydd yr ymddygiad a fyddai'n dangos bod y gofal ‘yn ddigon da’ yn cael ei egluro.  A dyma sylfaen y cynllun amddiffyn plant.   

Bydd gweithdai hyfforddi a chymorth mentora yn helpu i ddatblygu sgiliau staff wrth adnabod newid a defnyddio’r fformatau cofnodi newydd.  Bydd y gwasanaeth mentora’n cael ei gyflwyno yn yr Awdurdod Lleol gan reolwyr a mentoriaid ymarfer, a drwy grwpiau cefnogol wedi’u hwyluso.

Mae Amddiffyn Plant yn Effeithiol wedi cael ei ddatblygu a’i fabwysiadu gan Gyngor Gwynedd.  Mae’n brosiect arloesol ar gyfer Gogledd Cymru, a’i nod ydy datblygu ymarfer arloesol a thrawsnewid y ffordd rydym yn cyflwyno gwasanaethau. Bydd y prosiect yn datblygu ac yn treialu dulliau newydd o weithio, ac os bydd Awdurdodau eraill yn gweld budd ynddo, gellir ei roi ar waith mewn lleoedd eraill hefyd.

Cyflwynir yr hyfforddiant drwy raglen sydd wedi cael ei datblygu'n lleol, ac mae hi’n cynnwys:

  • Gweithdy Amddiffyn Plant yn Effeithiol
  • Canllawiau ymarfer a deunyddiau ategol

Bydd goruchwyliaeth, cefnogaeth gan gydweithwyr a rôl y Cydlynydd Amddiffyn Plant mewn Cynadleddau Achos yn ategu’r hyfforddiant hwn.  Mae’r prosiect Amddiffyn Plant yn Effeithiol yn cynnig cymorth mentora ar gyfer unigolion a grwpiau.