Gwerthusiad o Amddiffyn Plant yn Effeithiol

"Pam nad oes neb wedi meddwl am hyn o’r blaen?"

— Bruce Thornton

 

Roedd Amddiffyn Plant yn Effeithiol yn brosiect peilot a ddatblygwyd i werthuso'r defnydd o ddulliau amrywiol mewn ymarfer amddiffyn plant rheng flaen.  Y gobaith oedd y byddai canlyniadau’r peilot yn ein helpu i ddeall beth weithiodd yn y prosiect a beth ellid ei gyflwyno i Awdurdodau Lleol eraill.

Mae'r model Amddiffyn Plant yn Effeithiol wedi'i werthuso ar ddau bwynt allweddol.

Cynhaliwyd y gwerthusiad interim ym mis Chwefror a mis Mawrth 2020 wrth i bandemig COVID-19 daro. Roedd hyn tua chanol cyfnod y prosiect peilot.  Roedd tair thema werthuso i’r gwerthusiad interim yma. Y rhain oedd:

  • Gwerthusiad o ddatblygiad mentora ymarfer
  • Gwerthusiad o brofiad ymarferwyr
  • Gwerthusiad o effaith Amddiffyn Plant yn Effeithiol mewn Cynadleddau Achos

Cynhaliwyd y gwerthusiad terfynol ym mis Mawrth 2022.  Fe’i cynhaliwyd trwy gyfres o gyfweliadau manwl, lled-strwythuredig gydag ymarferwyr a rheolwyr o asiantaethau amrywiol.

Cyhoeddwyd yr adroddiad gwerthuso terfynol ym mis Awst 2022.

Gellir lawr lwytho'r Adroddiad Llawn o'r dudalen hon yn ogystal â detholiadau byrrach o'r Crynodeb Gweithredol, Setiau Data Prosiect a Gwerthusiad Interim:

 

Mae fideo o'r pwyntiau allweddol ar gael hefyd. Yn y fideo hwn, mae awdur yr adroddiad Bruce Thornton yn cyflwyno ei ganfyddiadau.

 

Gwnaeth yr adroddiad yr argymhellion canlynol:

  • Atgyfnerthu’r gwaith o gyflwyno elfennau Newid a Mesur (Camau tuag at newid) fel y rhai sy'n gwneud y mwyaf o wahaniaeth.
  • Dal ati i adolygu ‘Beth sydd Angen Newid’ a ‘Mesur’ er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn rhoi ffocws unigol ar deuluoedd a’u sefyllfaoedd.
  • Mae'r prosiect wedi llwyddo i helpu llawer o deuluoedd i newid eu ffyrdd ac i ofalu am eu plant. Dylid dal ati i ddatblygu ac adolygu amrywiaeth o ffyrdd gwahanol o hybu a galluogi newid.
  • Atgyfnerthu a sefydlu mentora er mwyn cynorthwyo ac atgyfnerthu rôl a chyfrifoldebau’r rheolwr tîm.  Mae mentora wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu sgiliau gweithwyr cymdeithasol o safbwynt adlewyrchu, cyfathrebu a chynnwys teuluoedd.
  • Datblygu cyngor i awdurdodau lleol eraill ar ddefnyddio elfennau unigol Amddiffyn Plant yn Effeithiol i gyd-fynd â’r system maen nhw’n ei defnyddio.  Y prif elfennau ydy ‘Newid’ a ‘Mesur’. Gallai’r rhain gyd-fynd â phrosesau sydd ar waith yn barod yn ddigon hawdd.
  • Defnyddio dadansoddiad ‘Rheswm dros eich Penderfyniad’ Risg 2 mewn cynadleddau i grynhoi casgliadau.
  • Defnyddio’r grid yn Risg 2 mewn cynadleddau a grwpiau craidd er mwyn cyfathrebu'n well.
  • Defnyddio teclynnau Proffil Gofal wedi’i Raddio a Chyflwr y Cartref i helpu i feddwl am y ‘Camau’ a’r ‘Newid’.
  • Dal ati i hyrwyddo’r dulliau a’r canlyniadau – yng Ngogledd Cymru i ddechrau arni ac yna i gynulleidfa ehangach.

 

Bruce ThorntonCwblhawyd y Gwerthusiad yma gan Bruce Thornton, ymgynghorydd annibynnol a hyfforddwr mewn gofal cymdeithasol. Roedd hyn yn adeiladu ar ei werthusiad interim lle edrychodd ar adroddiadau a chofnodion Cynadleddau Achos Amddiffyn Plant, cyn ac ar ôl cyflwyno ECP.

Mae Bruce yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig sydd wedi cymhwyso ers 1971. Mae ei gefndir wedi bod yn bennaf ym maes gofal plant ac mae wedi dal swyddi gwaith cymdeithasol, rheoli a hyfforddi mewn awdurdodau lleol. Mae wedi darlithio ar gwrs gwaith cymdeithasol proffesiynol ac roedd yn gydawdur Canllaw Gofal Cymunedol i Ddeddf Plant 1989.

Ers 1992 mae wedi bod yn hyfforddwr ac yn cynorthwyo gyda datblygu gwasanaethau yng Nghymru a Lloegr. Roedd yn gydawdur Model Risg Gwynedd ac mae ganddo ddiddordeb arbennig yn natblygiadau ym maes amddiffyn plant sydd yn ymarferol i awdurdodau lleol.

Roedd yn gyfarwydd ag elfen ‘Trothwy’ Amddiffyn Plant yn Effeithiol ac roedd hyn yn sylfaen dda ar gyfer cynnal y Gwerthusiad. Roedd yn deall cefndir y prosiect Amddiffyn Plant yn Effeithiol er nad yw wedi bod yn rhan o'i ddatblygiad na'i weithrediad.