collage

Y Prosiect

Nod y prosiect ydy gwneud yn siŵr bod ymarfer ym maes amddiffyn plant yn effeithiol, ac mae fframwaith ymarfer wedi cael ei gynllunio er mwyn rhoi sylw i hyn.  Mae’n seiliedig ar bedair egwyddor:

  • Sgyrsiau – cyfathrebu effeithiol drwy ymarfer ‘sgyrsiau cydweithredol’
  • Trothwy – gwneud penderfyniadau cyson wrth asesu risg
  • Newid – ffocws clir ar y newid sydd ei angen er mwyn atal niwed
  • Mesur – mesur cynnydd tuag at ganlyniadau

Mae’r fframwaith hwn wedi cael ei ddatblygu gan ymarferwyr o Wasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd Gwynedd, sy'n arwain y prosiect.

 

Dafydd Paul, Uwch Reolwr – Diogelu ac Ansawdd

Dafydd Paul, Uwch Reolwr – Diogelu ac AnsawddAc yntau'n Weithiwr Cymdeithasol Cofrestredig gyda dros 30 mlynedd o brofiad ym maes gofal cymdeithasol, Dafydd ydy Arweinydd y Prosiect.  Roedd Dafydd yn rhan o’r gwaith o ddylunio’r Model Risg gyda Bruce Thornton.  Ar ôl ennill Gwobr Gofal Cymdeithasol am y Model Risg, yn 2013, derbyniodd Wobr Arloesi mewn Gwaith Cymdeithasol BASW.  Fel rhan o’r prosiect, mae Dafydd wedi datblygu a chyflwyno’r rhaglenni hyfforddi, ac ef hefyd sy’n goruchwylio’r prosiect.

 

Sue Adams, Cydlynydd Amddiffyn Plant

Sue Adams, Cydlynydd Amddiffyn PlantMae Sue yn Weithiwr Cymdeithasol Cofrestredig gyda dros 35 mlynedd o brofiad ym maes gofal cymdeithasol plant a theuluoedd.  Mae hi wedi gweithio yn y sector gwirfoddol ac yn y sector cyhoeddus, fel gweithiwr cymdeithasol ac ym maes rheolaeth, ymgynghori ac Arolygiaeth.  Yn ystod ei gyrfa, mae hi wedi ymddiddori mewn gwaith ataliol a diogelu. Roedd hi hefyd yn diwtor ar y cwrs gradd Gwaith Cymdeithasol am rai blynyddoedd.  Bydd Sue yn cadeirio Cynadleddau Amddiffyn Plant yng Ngwynedd, sy'n golygu ei bod yn deall yn iawn pa fath o heriau y gellir eu gweld mewn ymarfer o ddydd i ddydd, a’r cyfyng-gyngor sy’n gallu codi.  Yn y prosiect hwn, Sue fydd yn cyflwyno’r fframwaith ymarfer mewn Cynadleddau Achos.

 

Wendy Roberts, Arweinydd Trawsnewid Ymarfer

Wendy Roberts, Arweinydd Trawsnewid YmarferMae Wendy yn Weithiwr Cymdeithasol Cofrestredig gyda dros 11 mlynedd o brofiad ym maes gofal cymdeithasol.  Mae hi wedi gweithio mewn sawl maes gwasanaeth, gan ganolbwyntio'n ddiweddar ar wasanaethau ar gyfer plant anabl.  Mae hi wedi cyflawni gwaith ymchwil mewn meysydd yn ymwneud â ‘Gwella cyfranogiad plant anabl mewn cyfarfodydd adolygu’ ac ‘Effaith Amddiffyn Plant ym maes Anableddau Plant’.  Wendy fydd mentor ymarfer y prosiect.  Fe fydd hi'n gwneud gwaith un i un ac mewn grwpiau bach gydag ymarferwyr er mwyn eu helpu i ddefnyddio’u hyfforddiant yn ymarferol.