collage

Newyddion

Sesiynau mentora grwp

Fel prosiect gwnaethom gydnabod y buddion o drefnu sesiynau grŵp ar gyfer gweithwyr rheng flaen, ac mae'r mentor wedi bod yn gyfrifol am sefydlu a hwyluso'r rhain. Cynullir grwpiau er mwyn archwilio profiadau ymarfer a chyfleoedd ar gyfer twf. Ochr yn ochr â goruchwyliaeth ffurfiol gan reolwyr a goruchwyliaeth cymheiriaid sy'n digwydd yn naturiol yn y swyddfa, mae'r sesiynau grŵp yn darparu lle i annog dysgu a datblygu.

Sesiynau mentora 1:1

Wrth greu'r Model Amddiffyn Plant yn Effeithiol, ystyriwyd ei bod yn elfen allweddol o'r prosiect i gael mentor ymarfer a allai fentora'r gweithwyr cymdeithasol rheng flaen o ran deall gwahanol elfennau’r model, a hefyd ymgorffori hyfforddiant i’r ymarfer.

‘Rheoli Risg yn Gadarnhaol ac Amddiffyn Plant yn Effeithiol’ – Digwyddiadau Dysgu a Chefnogaeth gan Gymheiriaid – Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Roedd Llywodraeth Cymru wedi trefnu cynhadledd genedlaethol i drafod gwaith y Cynulliad ar ei weledigaeth i leihau niferoedd y plant sydd mewn gofal yng Nghymru.  Gofynnwyd i Dafydd Paul roi cyflwyniad i'r Gynhadledd ar waith Gwynedd.

Roedd y Gynhadledd yn gyfle gwych i gael blas ar waith Awdurdod Castell-nedd Port Talbot ar ymarfer sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, ynghyd â chyflwyniadau gan IPC ar rieni gydag anableddau dysgu.  Rhoddwyd y prif gyflwyniad gan Gyngor Glasgow, a hynny ar ei waith i leihau niferoedd y plant sy'n derbyn gofal.

Gweithio ar sail Canlyniadau – Diwrnod Rhwydwaith Mentoriaid Cymru Gyfan

Bu sawl unigolyn sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect ym Mhowys yn y Diwrnod Rhwydwaith Mentoriaid Cymru Gyfan – y diwrnod cyntaf o’i fath i gael ei gynnal.

Yn dilyn yr hyfforddiant ‘Arweinwyr Mentora a Chymell’, roedd y digwyddiad hwn a gynhaliwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru yn gyfle i rannu ymarfer da ac i rwydweithio a sgwrsio â gweithwyr proffesiynol eraill o bob rhan o’r wlad.  Ei nod oedd helpu mentoriaid sy’n ymwneud â sgyrsiau cydweithredol a dulliau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ar draws Cymru.

Digwyddiad Dysgu Gwasanaethau Plant Castell-nedd Port Talbot – Ymarfer sy'n Canolbwyntio ar Ganlyniadau mewn Gwasanaethau Plant

Cafodd nifer o’r unigolion sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect gyfle i fynd i Fargam, i Ddigwyddiad Dysgu a oedd yn cael ei drefnu gan Wasanaethau Plant Castell-nedd Port Talbot a Gofal Cymdeithasol Cymru. Rhannodd Gwasanaethau Plant Castell-nedd Port Talbot eu stori am eu siwrnai nhw o ran Ymarfer sy'n Canolbwyntio ar Ganlyniadau.