Mae ymarfer adlewyrchol wedi bod yn gonglfaen i'r prosiect Amddiffyn Plant yn Effeithiol o'r cychwyn cyntaf. Mae'r Mentor Ymarfer wedi defnyddio grwpiau mentora unigol ac grwpiau ymarfer adlewyrchol i ddatblygu gallu gweithwyr i roi rhai o egwyddorion Amddiffyn Plant yn Effeithiol ar waith. Mae hyn wedi gweithio'n dda iawn ar gyfer y prosiect a datblygu rôl y Mentor Ymarfer.
Mae ymarfer adlewyrchol yn cael ei ystyried y ffordd orau i ni sicrhau bod sgiliau gweithwyr yn parhau i ddatblygu. Mae'n adeiladu ar effeithiau hyfforddiant trwy gynorthwyo staff i arbrofi yn ymarferol a pharhau i ddysgu. Mae'n darparu'r potensial ar gyfer cynaliadwyedd datblygiad proffesiynol. Oherwydd hyn rydym wedi bod yn uchelgeisiol i sicrhau ein bod yn parhau i fireinio ein hymagwedd tuag at ymarfer adlewyrchol.
Ar ôl sicrhau'r cyllid ychwanegol i greu'r pecyn dysgu amddiffyn plant effeithiol, agorodd gyfle pellach inni ystyried yr hyn a allai fod fwyaf buddiol i weithwyr yn eu hymarfer ar y rheng flaen.
Rydym wedi cydweithio â Siobhan Maclean, arbenigwr yn y maes hwn i greu rhywfaint o ddeunydd pwrpasol sy'n ystyried pwysigrwydd ymarfer adlewyrchol, ac sydd hefyd yn cynnig cefnogaeth i weithwyr nawr ac i'r dyfodol.
Rydym yn cydnabod pa mor gysylltiedig yw ymarfer adlewyrchol â'r newidiadau yr ydym yn ceisio eu hymgorffori yn y prosiect. Mae pwysigrwydd adolygu ein harfer ein hunain fel gweithwyr cymdeithasol o'r pwys mwyaf. Trwy adlewyrchu rydym yn dod yn fwy ymwybodol o'n sgiliau cyfathrebu; y ffordd yr ydym yn mynd at sefyllfaoedd; y penderfyniadau a wnawn; a hefyd effaith hyn i gyd ar ein perthnasoedd â theuluoedd.
Gall cynyddu ein hunanymwybyddiaeth ein hunain hefyd arwain at gefnogi teuluoedd i ddatblygu eu sgiliau adlewyrchol eu hunain, ac i feddwl yn ddyfnach am y penderfyniadau y maent wedi'u gwneud a'r camau y maent wedi'u cymryd. Yna gall hyn arwain at newid mwy cynaliadwy a gwneud penderfyniadau gwell yn y dyfodol.
Rydym yn parhau â'r egwyddor o weithio ar y cyd a chynnwys gweithwyr cymdeithasol wrth ddatblygu agweddau ar y gwaith hwn, gan gynnwys cyfle cyffrous i weithio gyda Siobhan i ddatblygu ein model ymarfer adlewyrchol ein hunain ar gyfer Gwynedd.