Datblygu pecyn dysgu newydd

Wrth feddwl ymlaen at ddyfodol y prosiect, roeddem o'r farn y byddai o fudd ceisio datblygu pecyn dysgu i gefnogi rhannu gwybodaeth o fewn Gwynedd, ledled rhanbarth Gogledd Cymru, a thu hwnt.

Er mwyn ein galluogi i ddatblygu pecyn o'r fath gwnaethom gais llwyddiannus am arian gan y Bwrdd Trawsnewid Rhanbarthol. Mae hwn yn gyfle ac yn her i ni o fewn y prosiect! Efallai y bydd creu deunydd i gyd-fynd â’r Sesiwn Hyfforddi Amddiffyn Plant Effeithiol yn swnio i rai yn ‘ychwanegiad’ hawdd ond yn y pen draw mae wedi golygu llawer o waith datblygu. Creu, mireinio a blaenoriaethu; sicrhau bod y negeseuon allweddol yn glir; ac ystyried pa blatfform a allai weithio orau ar gyfer y wybodaeth a gynhwysir tra hefyd yn ystyried ein bod i gyd yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd.

Gwnaethom gydnabod pwysigrwydd cynnwys rhai pobl yr oeddem yn eu hystyried yn arbenigwyr yn eu meysydd ymarfer ac rydym wedi gallu comisiynu rhywfaint o waith pwrpasol ganddynt a fydd yn ychwanegu mwy o ddyfnder i rai o'r negeseuon yr ydym am eu cyflwyno.

Bydd y pecyn dysgu sydd bellach yn ddwfn yn ei ddatblygiad yn cwmpasu amrywiaeth o ddogfennau, fideos a modiwlau e-Ddysgu, y mae pob un ohonynt yn anelu at gefnogi a datblygu dealltwriaeth gweithwyr proffesiynol o ymarfer plant effeithiol a beth mae hyn yn ei olygu i ymarfer.